Tystysgrif Gwrs Fygythiad Llongau Danfor a ddyfarnwyd i'r Capten John R. Williams o Borthmadog
Disgrifiadau
Ganed John R.Williams ym Mhorthmadog ym 1877, mab Capten John Williams. Dechreuodd ei yrfa forwrol fel bachgen 13 oed ar sgwner ei dad y MESSENGER. Am y 13 blynedd nesaf, bu'n gweithio i fyny’r rhengoedd. Yn 1903, fel llawer o'i gyfoedion, symudodd i agerlongau ac erbyn 1909 roedd yn hwylio fel met ar y FLORIZEL, llong yn eiddo i C.T. Bowring a cyf o St John's Newfoundland ar eu masnach i lawr arfordir dwyreiniol Gogledd America . Yna, hwyliodd yn Feistr ar longau cwmni hwn. Yn 1916 penodwyd i’r LOMPOC, tancer yn hwylio ledled y byd.
Yn ystod 1918, ym Môr y Gogledd, cafodd y LOMPOC ei dorpido dwywaith, achosi difrod mawr ond ar y ddau achlysur daeth Capten Williams y llong yn ddiogel i mewn i'r porthladd. Am hyn, dyfarnwyd Tystysgrif Cymeradwyaeth iddo.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment