Llyfr Ordinhadau Caerfyrddin, 1569-1606, clawr [delwedd 1 o 23]
Disgrifiadau
Mae cofnodion bwrdeistref Caerfyrddin, sy'n dyddio'n ôl i chwarter olaf yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ffurfio un o'r cyfresi mwyaf cyflawn o ddogfennau yn hanes trefol Cymru. Yn ystod cyfnod y llyfr hwn, Caerfyrddin oedd y dref fwyaf o ran maint ac o ran datblgiad economaidd yng Nghymru gyda phoblogaeth o tua 2,100.
Gwnaed y Llyfr Ordinhadau yn ystod cyfnod Griffith ap Ieuan y Maer, 1581 O.C. ac, yn ôl pob tebyg, fe'i ddefnyddiwyd yn wreiddiol fel cofnod parhaol o ddeddfau lleol y dref. Mae ei benawdau llythyrau addurnedig a'i lawysgrifen unffurf daclus yn ei wneud yn berffaith ar gyfer digwyddiadau defodol fel urddo maer newydd pan oedd angen trosglwyddo'r 'Booke' o'r hen faer i'r un newydd. Serch hynny, wedi maeryddiaeth Griffith ap Ieuan, mae'r cofnodion yn dirywio o ran addurn a thaclusrwydd wrth i'r gyfrol droi'n 'gyfrol waith' yn ystod gweddill yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg.
[Ffynhonnell: John Davies, The Carmarthen Book of Ordinances 1569-1607]
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment