'The depositions, arguments and judgement in the cause of the church-wardens of Trefdraeth ... ' (1773) [delwedd 1 o 64]
Disgrifiadau
Cyhoeddwyd y llyfryn hwn gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1773 ac mae'n ymwneud â'r helynt a gododd yn dilyn penodi Thomas Bowles (neu'r 'Sais brych', chwedl Ieuan Fardd), Sais uniaith oedrannus, yn offeiriad plwyfi Trefdraeth a Llangwyfan, Sir Fôn, ym 1766. O ystyried mai pump yn unig o'r 500 o blwyfolion a oedd yn medru siarad neu ddeall Saesneg ar y pryd, efallai nad yw'n syndod i'r penodiad hwn gael ei wrthwynebu mor gryf yn yr ardal.
Penderfynodd plwyfolion Trefdraeth a Llangwyfan lansio deiseb yn erbyn Bowles ac arweinodd yr ymgyrch hon yn y pen draw at achos llys yn ei erbyn yn Llys y Bwâu, Llundain, ym 1773. Er i Bowles geisio berswadio'r llys ei fod yn medru gweinidogaethu drwy gyfrwng y Gymraeg, ni lwyddodd i daflu llwch i lygaid y barnwr, Dr. George Hay, a ddaeth i'r casgliad bod y penderfyniad i benodi Thomas Bowles yn mynd yn groes i amodau Deddf Cyfieithu'r Beibl 1563 a Deddf Unffurfiaeth 1662, yn ogystal â phedwaredd erthygl ar hugain Eglwys Loegr, a oedd yn datgan mai peth annerbyniol oedd cynnal gweddi a sacrament trwy gyfrwng iaith na fedrai'r gynulleidfa ei deall. Er na fu'n rhaid i Bowles adael ei swydd, roedd penderfyniad y barnwr heb os yn fuddugoliaeth symbolaidd i blwyfolion Trefdraeth a Llangwyfan a lwyddodd, gyda nawdd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, i herio polisi ieithyddol Eglwys Loegr yng Nghymru. Bu farw Thomas Bowles ym mis Awst 1773 ac ym mis Tachwedd, penodwyd Richard Griffith, Cymro Cymraeg, yn offeiriad plwyfi Trefdraeth a Llangwyfan.
Ffynhonnell: Geraint H. Jenkins, 'Cadw Tŷ Mewn Cwmwl Tystion' (Llandysul, 1990)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment