'A most strange and true report of a monsterous fish ... in the parish of Pendine in the countie of Carmarthen' (1604) [delwedd 1 o 9]
Disgrifiadau
Dyma teitl llawn y pamffled hwn:
'Most strange and true report of a monsterous fish, that appeared in the forme of a woman, from her waste upwards: seene in the sea by diuers men of good reputation, on the 17. of February last past 1603 neare Gybnanes poynt, in the parish of Pendine in the countie of Carmarthen' (1604).
Mae'r pamffled unigryw hwn yn adrodd hanes gweld môr-forwyn honedig ger Pentywyn ym 1603. Gwelwyd y creadur yn gyntaf gan Thomas Raynold, iwmon o Bentywyn, a alwodd ar eraill i wylio am dair awr. Croesholwyd Raynold a rhai o'r tystion eraill gan William Saunders yn ddiweddarach.
Roedd straeon am fôr-forynion yn weddol gyffredin yn ystod y bymthegfed ganrif, yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Mae hyd yn oed cyfeiriad at weld môr-forynion yn nyddlyfr Christopher Columbus (1451-1506) ar gyfer 9 Ionawr 1493. Credwyd y gallai môr-forynion achub morwyr rhag boddi, ond gallent hefyd ddenu llongau i'w tranc. Parhaodd cred mewn môr-forynion, tylwyth teg a chreaduriaid mytholegol eraill mewn llawer o ardaloedd ym Mhrydain hyd y ddeunawfed ganrif ac weithiau hyd yn oed wedi hynny. Yn raddol, yn wyneb gwrthwynebiad yr Eglwys Brotestannaidd, twf llythrennedd, a diwydiannu, daeth diwedd ar y gred mewn creaduriaid o'r fath, er bod nifer o straeon amdanynt wedi goroesi.
Datblygodd y fasnach bamffledi o ganlyniad i ddyfeisio'r broses argraffu yn y bymthegfed ganrif a thwf yn lefel llythrennedd y boblogaeth yn gyffredinol. Roedd masnachwyr pamffledi yn aml yn argraffu eu pamffledi eu hunain ac yn eu gwerthu am ychydig geiniogau ar y stryd. Roedd y pamffledi yn aml yn grefyddol neu wleidyddol eu naws.
Roedd gan y cyhoedd hefyd awch am bynciau ysgafnach a mwy difyr. Mae straeon am greaduriaid od, genedigaethau gwrthun, ac yn y blaen, yn cyfrif am ganran sylweddol o gynnyrch y pamffledwyr yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Argraffwyd llawer o'r straeon o'r fath fel baledi a'u canu fel ffurf o adloniant.
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment