Llythyr oddi wrth Mary Jones at ei rhieni, 13 Tachwedd 185[5?] [delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Llythyr a anfonodd Mary Jones, brodor o Lanfihangel-y-Pennant, at ei rhieni o Ballarat, Awstralia, yn fuan wedi iddi gyrraedd y wlad honno, c. 1855.
Yn y llythyr hwn, sef y llythyr cyntaf iddi anfon o Ballarat, mae Mary yn disgrifio'r fordaith o Lerpwl ar y llong 'White Star' - treuliodd 72 o ddyddiau ar y llong. Un noson, roedd y môr yn arw iawn ac ofnai Mary y byddai'r llong yn suddo. Gwelodd bedwar o bobl yn cael eu claddu yn ystod y fordaith a phedwar o fabanod yn cael eu geni. Cafodd Mary ei tharo'n wael ond derbyniodd pob caredigrwydd gan y llawfeddyg a'r Capten. Cyfeiria at y llawfeddyg fel 'Palmar, brawd ir doctor laddodd gimaint yn llundan' (mae'n bosibl ei fod yn frawd i William Palmer, 'The Rugeley Poisoner', a grogwyd ym 1856). Dywed Mary fod gwraig o'r enw Mrs. Jones o Gaernarfon wedi gofalu amdani ar y llong, roedd hithau yn teithio i Awstralia i weld ei gŵr.
Ar ôl cyrraedd Awstralia, roedd iechyd Mary Jones yn llawer gwell nag y bu ers blynyddoedd. Dywed fod Awstralia yn wlad hardd lle mae'r hinsawdd yn iach. Mae nifer o bobl o Sir Feirionnydd yn byw gerllaw ac mae hi'n enwi rhai ohonynt. Er ei bod yn edifar ganddi adael ei theulu, mae Mary yn dweud wrth ei mam nad oes angen iddi boeni amdani gan y bydd yn dychwelyd adref cyn bo hir. Mae hi'n canmol ei gŵr, William, ac yn dweud ei fod yn ddyn addfwyn iawn. Roedd Mary yn disgwyl y byddai'n rhaid iddi gysgu mewn pabell yn Awstralia ond maent wedi cael tŷ hardd. Fodd bynnag, cafodd gryn syndod pan ddarganfu cyn lleieid o ddynion o Gymru a oedd yn Ballarat ac yn ei barn hi, nid yw'n ddoeth i ferched o Gymru deithio i Awstralia ar eu pennau eu hunain, heb unrhyw un i ofalu amdanynt.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment