Skip to main content

Llythyr oddi wrth Evan Griffith, Utica, yn hysbysu rhieni Henry Jones am farwolaeth eu mab, 1852 [delwedd 1 o 4]

Disgrifiadau

Llythyr a anfonodd Evan Griffith o Utica, yn hysbysu rhieni Henry Jones am farwolaeth eu mab yn Sonoma, Califfornia. Mae'r hanes a roddir yn y llythyr hwn yn seiliedig ar gynnwys llythyr a dderbyniodd Evan Griffith oddi wrth John Davies, gof a oedd wedi teithio i Galiffornia gyda Henry Jones ym mis Ebrill 1852.

Yn fuan wedi hwylio o Efrog Newydd, dechreuodd Jones ddioddef o salwch môr difrifol, ac roedd yn ofni y byddai yn gwneud llawer o niwed i'w iechyd. Erbyn iddynt gyrraedd porthladd Acapulco, roedd Jones wedi gwella rhywfaint ac fe aethant yn eu blaenau i San Francisco. Ni chafodd Jones iechyd da iawn yno ac yn y pen draw cafodd ei daro'n wael gan boen difrifol yn ei fol. Roedd Davies yn ofni fod Jones wedi yfed gormod o ddŵr. Roeddynt hefyd wedi cael eu rhybuddio gan feddyg i beidio â bwyta unrhyw beth a allai droi'n sur. Un diwrnod, roedd gwraig o Fecsico wedi ymddangos yn gwerthu grawnwin ac roedd Jones wedi bwyta llawer ohonynt. Roedd hefyd wedi bwyta bresych a llysiau eraill. Cyn bo hir, datblygodd dwymyn a dechreuodd ddioddef gan boenau difrifol yn ei fol. Galwyd am gymorth tri meddyg, ond daethant i'r canlyniad nad oedd unrhyw obaith iddo wella. Galwodd Henry Jones am ddau weinidog a dywedodd ei fod yn edifar ganddo nad oedd wedi byw bywyd mwy ysbrydol. Derbyniodd gymun ac yn fuan cyn iddo farw dywedodd ei fod yn dawel ei feddwl.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Griffith, Evan
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001
Publisher Ref:
GTJ64313
Eitem wedi’i llwytho:
29/1/2010
Date originally created:
1852
Gwelediadau:
590
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment