Skip to main content

Llythyr oddi wrth Henry Jones at ei frawd a'i chwaer, 20 Ionawr 1851 [delwedd 1 o 4]

Disgrifiadau

Llythyr a anfonodd Henry Jones, brodor o Lanfihangel-y-Pennant at ei frawd a chwaer, 20 Ionawr 1851. Roedd Henry wedi ymfudo i Holland Patent, Talaith Efrog Newydd.

Dywed Henry ei fod yn dal i fyw yn yr un lle ag y treuliodd yr haf. Mae wedi mynychu un ffair yn unig, a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf. Mae ei hen ddillad wedi para'n dda. Dywed ei fod wedi dechrau bwrw eira, mae dros llathen o eira wedi disgyn mewn sawl man. Mae'n cario coed i Utica ac yn ennill rhwng 16 ac 20 swllt am bob 'cord' - mae Henry yn ystyried hyn yn gyflog da.

Dywed nad yw'r Americanwyr yn dathlu priodasau yn yr un modd ag y maent yng Nghymru. Nid ydynt yn cael eu hystyried yn ddigwyddiadau mawr, ac mae pobl yn tueddu i briodi gyda'r nos neu cyn mynd i'r gwely. Bydd gweinidog yn priodi cyplau mewn dau neu dri munud am dâl o 4 neu 6 swllt, a hynny heb drwydded na menyg.

Unwaith yn rhagor, mae Henry yn ceisio perswadio ei deulu i ymuno ag ef yn America. Dywed y gall dyn fyw ar ei arian ei hun yn America, ond adref yng Nghymru, mae pobl yn rhygnu byw dim ond er mwyn rhoi eu harian i'r bonedd. Dywed ei fod yn biti fod dyn fel Hugh Jones yn gorfod gweitho mor galed i ennill cyn lleied o arian; ym marn Henry, mae Hugh gystal crefftwr ag unrhyw un yn America.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, Henry
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001
Publisher Ref:
GTJ64309
Eitem wedi’i llwytho:
29/1/2010
Date originally created:
20/1/1851
Gwelediadau:
1136
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment