Skip to main content

Llythyr taith neu lythyr neithior John ac Anne Cole (gynt yn Thomas), 11 Ebrill 1806

Disgrifiadau

Llythyr taith neu lythyr neithior yn dilyn priodas John ac Anne Cole (gynt ynThomas).

Yn ardaloedd gwledig de-orllewin Cymru, roedd yn arfer cyffredin cyn cynnal priodas i wahodd y gwahoddedigion i'r seremoni a'r wledd, neu'r neithior. Cyn dyfodiad y 'post ceiniog' cyflogid 'gwahoddwr' i alw yn nhai ffrindiau a chydnabod er mwyn traddodi'r gwahoddiad ar lafar. Fodd bynnag, erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, daeth yr arfer o anfon 'llythyr taith' yn fwyfwy poblogaidd. Er bod y llythyr taith a'r 'stori wadd' yn debyg iawn mewn sawl ystyr, gan eu bod ill dau yn glynu at drefn eithaf sefydlog, nid oedd y llythyr yn cynnwys yr elfennau o hiwmor a oedd mor amlwg yn y cyflwyniad llafar. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y traddodiad llafar ac ysgrifenedig ymron â dod i ben yng Nghymru.

Owner:
Carmarthenshire Archives Service
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin
Copyright Details:
Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin 2002
Publisher Ref:
GTJ10066
Eitem wedi’i llwytho:
29/1/2010
Date originally created:
12/4/1808
Gwelediadau:
2173
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment