Skip to main content

Llythyr taith neu lythyr neithior John Rees a Mary Davies, 22 Gorffennaf 1806

Disgrifiadau

Llythyr taith neu lythyr neithior yn gwahodd y gwesteion i briodas John Rees a Mary Davies, a gynhelir ar 5 Awst 1806.

Yn ardaloedd gwledig de-orllewin Cymru, roedd yn arfer cyffredin cyn cynnal priodas i wahodd y gwahoddedigion i'r seremoni a'r wledd, neu'r neithior. Cyn dyfodiad y 'post ceiniog' cyflogid 'gwahoddwr' i alw yn nhai ffrindiau a chydnabod er mwyn traddodi'r gwahoddiad ar lafar. Fodd bynnag, erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, daeth yr arfer o anfon 'llythyr taith' yn fwyfwy poblogaidd. Er bod y llythyr taith a'r 'stori wadd' yn debyg iawn mewn sawl ystyr, gan eu bod ill dau yn glynu at drefn eithaf sefydlog, nid oedd y llythyr yn cynnwys yr elfennau o hiwmor a oedd mor amlwg yn y cyflwyniad llafar. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y traddodiad llafar ac ysgrifenedig ymron â dod i ben yng Nghymru.

Owner:
Carmarthenshire Archives Service
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin
Copyright Details:
Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin 2002
Publisher Ref:
GTJ10064
Eitem wedi’i llwytho:
29/1/2010
Date originally created:
22/7/1806
Gwelediadau:
3991
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment