Bwlb golau a ddefnyddiwyd yn ystod blacowt yr Ail Ryfel Byd
Bwlb golau a ddefnyddiwyd yn ystod blacowt yr Ail Ryfel Byd
Disgrifiadau
Ar 1 Medi 1939 dechreuodd y 'blacowt' ym Mhrydain. Golygai hyn fod yn rhaid cuddio'r golau ym mhob ffenestr ym mhob adeilad cyn iddi dywyllu, er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw olau i'w weld o'r tu allan. Byddai pobl yn derbyn dirwy drom pe na baent yn cydymffurfio â'r drefn. Pan ddechreuodd yr Almaenwyr fomio rhai o drefi a dinasoedd Prydain, roedd dilyn rheolau'r blacowt yn hollbwysig, oherwydd roedd yn llawer anoddach i awyrennau'r Almaenwyr ddod o hyd i'w targedau. Roedd bylbiau golau du (fel yr enghraifft a welir yma), yn cael eu defnyddio mewn nifer o dai, yn ogystal â llenni tywyll arbennig.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment