Skip to main content

Darnau o grochenwaith a ddarganfuwyd yn Sarn-y-Bryn-Caled, ger Y Trallwng

Disgrifiadau

Darnau o grochenwaith a ddarganfuwyd ar safle cwrsws Sarn-y-Bryn-Caled, i'r de o'r Trallwng. Daethpwyd o hyd i'r darnau crochenwaith gyda gweddillion corff a amlosgwyd yn yr ail gladdedigaeth ar y safle, ac fe ymddengys eu bod yn perthyn i lestr Peterborough sy'n dyddio o ganol neu ddiwedd y cyfnod Neolithig.

Mae clostir a ffos hirsgwar Sarn-y-Bryn-Caled yn mesur tua 400 metr ar ei hyd a 10 metr o led. Codwyd cloddiau ar ochrau allanol y ffosydd ac roedd y safle wedi cael ei ddyddio i'r cyfnod Neolithig, tua'r flwyddyn 3700 CC. Mae union bwrpas y cwrsws yn aneglur, ond ymddengys ei fod yn safle lle cynhelid defodau. Cafodd safleoedd defodau a chladdedigaethau eraill eu denu at y cwrsws. Daethpwyd o hyd i nifer o ffosydd crwn a thomenni claddu ym mhen gogleddol y safle ac mae clostir defodol sylweddol neu gofadail ar ffurf cylch cerrig hefyd wedi ei ganfod islaw Mill Lane.

Cyn i'r gwaith o adeiladu ffordd osgoi newydd Y Trallwng ddechrau, penderfynwyd mynd ati i gloddio rhai o brif nodweddion y cwrsws. Mewn ffos fechan fylchgron yn ne-ddwyrain y cwrsws daethpwyd o hyd i olion pedair gladdedigaeth (corfflosgiadau) a darnau o grochenwaith Neolithig Peterborough diweddar. Defnyddiwyd technegau radiocarbon i ddyddio'r safle i c. 2900 CC. Yn ffosydd crwn Coed-y-Dinas daethpwyd o hyd i dros 30 o lestri o gyfnod Pobl y Biceri yn dyddio o'r flwyddyn 1900 CC.

Heb os, y cofadail mwyaf trawiadol a gloddiwyd hyd yma oedd y cylch pren yn Sarn-y-Bryn-Caled. Roedd y cylch dwbl hwn wedi ei godi gan ddefnyddio pyst derw mawr a oedd tua 4 metr o uchder. Gan fod y fynedfa yn wynebu'r de mae'n bosibl bod yma gysylltiad â seremonïau addoli'r haul neu gyfeirio'r haul. Roedd twll claddu yng nghanol y cylch yn cynnwys dwy gladdedigaeth ddynol (corfflosgiadau); roedd y gyntaf yn cynnwys llestr bwyd bychan o'r Oes Efydd (a welir yma), ond roedd y llall, y brif gladdedigaeth, yn awgrymu aberth dynol gan i bedwar o bennau saethau fflint gael eu darganfod yn y safle ac ymddenygs mai'r saethau oedd achos y farwolaeth. Cafwyd hyd i dystiolaeth debyg i hyn yng Nghôr y Cewri.

Disgrifiad: Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn

Owner:
Powysland Museum & Montgomery Canal Centre
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn
Copyright Details:
Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn 1970
Publisher Ref:
GTJ23551
Eitem wedi’i llwytho:
29/1/2010
Date originally created:
2300-3699
BC
Gwelediadau:
1457
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment