Diodlestr o'r Oes Efydd a ddarganfuwyd ar safle claddu yn Neuadd Aberbechan, Llanllwchaearn
Disgrifiadau
Daethpwyd o hyd i'r diodlestr hwn 'o dan garreg fawr' gerllaw safle claddu ar dir Neuadd Aberbechan, Llanllwchaearn, ger Y Drenewydd.
Roedd crochenwaith rhychiog y cyfnod Neolithig yn parhau i gael ei gynhyrchu yn ystod blynyddoedd cynnar yr Oes Efydd, ond rhwng 2200 a 1600 CC, cyrhaeddodd crochenwaith Pobl y Biceri wledydd Prydain a gorllewin Ewrop yn gyffredinol. Nid yw tarddiad y math hwn o grochenwaith yn hysbys, ac ni wyddys ychwaith sut y llwyddodd i ledaenu mor gyflym. Fel y gwelir yn yr enghraifft nodweddiadol hon, mae ffurf ac addurniadau geometrig arbennig yn perthyn i'r math hwn o grochenwaith. Cafodd crochenwaith Pobl y Biceri ei ddisodli yn y pen draw gan lestri bwyd ac yrnau.
Disgrifiad: Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment