Skip to main content

Llyfr coginio yr Arglwyddes de Rutzen, Neuadd Slebech, tua'r flwyddyn 1845 [delwedd 1 o 31]

Disgrifiadau

Mae'r gyfrol hon yn cynnwys ryseitiau, meddyginiaethau llysieuol a chyngor yn ymwneud â'r cartref. Lluniwyd y gyfrol yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ( tua 1845) gan Arglwyddes de Rutzen, Neuadd Slebech (ger Hwlffordd, Sir Benfro). Ceir amrywiaeth diddorol o ryseitiau, gan gynnwys jeli traed llo, sŵp sgwarnogod, gwin gwsberis a'r pwdin â'r enw diddorol 'Pwdin Iwmyn Swydd Stafford'. Mae'r meddyginiaethau llysieuol yn cynnwys triniaethau ar gyfer cyrn, cnoadau gwybed a salwch y môr ynghyd â meddyginiaeth a gredir a oedd yn lleddfu'r pas. Ymysg y cyngor sy'n ymwneud â'r cartref, ceir sylwadau ar sut i lanhau a farneisio lluniau, sut i gael gwared ar sbotiau oddi ar farmor, sut i rwystro dŵr rhag treiddio i mewn i esgidiau, ynghyd â ryseitiau ar gyfer sebon cartref a sut i gael gwared ar fowld haearn oddi ar liain. Cyn dyfodiad cynhyrchion modern wedi'u gweithgynhyrchu, roedd yn rhaid i wragedd tŷ greu eu cyfryngau glanhau eu hunain, yn aml yn defnyddio ryseitiau, fel y rhain, a oedd wedi'u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Owner:
Pembrokeshire Record Office
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Benfro
Copyright Details:
Archifdy Sir Benfro 1970
Publisher Ref:
GTJ60206
Eitem wedi’i llwytho:
29/1/2010
Date originally created:
1840-1849
Gwelediadau:
3678
Ffefrynnau:
1

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment