Gwisg Gymreig: betgwn gwlanen, 19eg ganrif (blaen) [delwedd 1 o 3]
Gwisg Gymreig: betgwn gwlanen, 19eg ganrif (blaen) [delwedd 1 o 3]
Disgrifiadau
Betgwn gwlanen gyda streipiau du a choch. Mae'r bodis yn cau gyda thri chwlwm wedi'i wneud o dâp du. Mae'r llewys wedi'u haddurno â band o les gwyn. Mae corneli blaen y gŵn wedi'u pwytho i gefn y wast.
Hefyd mae pais neu sgert isaf wlân gyda streipiau fertigol coch a du. Mae'r defnydd wedi'i bletio yn llinyn gwasg cotwm gwyn tenau wedi'i gau yn y cefn gyda botwm wedi'i orchuddio. Ceir dau dwc pin dwfn uwchben y llinell hem.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment