'Mary Williams and daughter Sarah' gan David Patrick, 1850 (olew)
Disgrifiadau
Dyma un o bâr o bortreadau a beintiwyd gan David Patrick (1822-99) o'r teulu Williams; mae'r un arall yn dangos gŵr Mary Williams, John. Dangosir Mary Williams gyda'i merch, Sarah, yn ei chôl, yn eistedd ar gadair freichiau wedi'i chlustogi. Mae fas o flodau ar y bwrdd i'r chwith iddi ac yn y cefndir mae tirlun anghydweddol. Mae wyneb Mary Williams wedi'i baentio gyda gofal ac yn ôl pob tebyg, roedd y llun yn debyg iawn iddi. Mae'n ymddangos ei bod yn fregus yn gorfforol ac er na wyddys dyddiad ei marwolaeth, roedd yn bendant wedi marw erbyn 1856.
Cafodd David Patrick ei fagu yng Nghaerfyrddin a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yn forwr. Ceisiodd ennill ei fywoliaeth fel peintiwr portreadau yng Nghaerfyrddin yn ystod y 1850au ond erbyn 1861 roedd wedi'i restru fel peintiwr tai. Ni wyddys am unrhyw bortreadau eraill gan yr arlunydd hwn sydd wedi goroesi. Olew ar banel. Mesuriadau: 28.5cm x 22.5cm.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment