'Carmarthen Quay' gan B. Archibald Lewis, 1899 (dyfrlliw)
Disgrifiadau
Roedd B. A. Lewis (1857-1946) yn arlunydd amatur talentog. Ganed Benjamin Archibald Lewis yng Nghaerfyrddin a'i dref enedigol oedd ei hoff bwnc. Cafodd hyfforddiant fel peiriannydd nwy - sy'n esbonio ei lysenw 'Lewis the Gas', ond roedd hefyd yn cael ei adnabod fel B.A. Yn dilyn cyfnod yn gweithio yn Ne Affrica, dychwelodd i Gaerfyrddin ym 1894 gan weithio fel rheolwr y Cwmni Nwy nes iddo ymddeol. Roedd B. A. Lewis yn codi'n gynnar i beintio golygfeydd o Afon Tywi neu'r cei yng Nghaerfyrddin cyn dychwelyd i'r Gweithfeydd Nwy i ddechrau gwaith. Roedd yn arlunydd cynhyrchiol ac fe gafodd yr amser hefyd i astudio'n rhan amser yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yn ystod y 1890au. Mesuriadau: 38cm x 46cm.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment