Sheela-na-Gig (dwyfoldeb benywaidd), Llandrindod [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Roedd ffigyrau Sheela-na-Gig yn dduwiesau paganaidd neu Gristnogol cynnar.
Daethpwyd o hyd i'r ffigyrau hyn mewn nifer o fannau yn Ynysoedd Prydain, gyda chlystyrau yn yr Iwerddon a Swydd Derby, Lloegr. Dim ond dau ffigwr Sheela-na-Gig sydd wedi'u darganfod yng Nghymru (un yn Llandrindod, Sir Faesyfed a'r llall ym Mhenmon, Sir Fôn). Gan amlaf hen wrachod pen moel wedi'u cerfio'n amrwd oedd y ffigyrau, gyda phwyslais arbennig yn cael ei roi ar fannau dirgel amlwg y ffigwr. Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o'r Sheela-na-Gigs sydd wedi'u darganfod yn parhau yn eu safle gwreiddiol, sy'n golygu bod eu nodweddion wedi'u hindreulio a'u hanffurfio'n sylweddol. I'r gwrthwyneb, mae ffigwr Llandrindod yn enghraifft sydd mewn cyflwr da, gan iddi gael ei chladdu o dan riniog Eglwys yr Hen Blwyf am nifer o flynyddoedd.
Mae Sheela Llandrindod yn gerfwedd gerfiedig gyda chroes wedi'i hendorri ar yr ochr dde (mae'n bosibl mai ychwanegiad diweddarach oedd hon). Er ei bod wedi'i chanfod mewn cyd-destun Canol Oesol, mae'n debyg ei bod yn dyddio o'r Oesoedd Tywyll neu gynharach.
Mae'r dehongliadau'n amrywio ynglŷn ag ystyr ffigyrau Sheela-na-Gig. Fel arfer fe'u cysylltwyd â rhiniogau eglwysi canol oesol, a daethpwyd o hyd i nifer uwchben drysau (yn aml, pyrth eglwysi), gyda nod benodol o dynnu sylw at fannau dirgel amlwg y ffigwr. Awgrymodd dehongliadau cynnar fod ffigyrau Sheela-na-Gig yn cynrychioli natur uffernol y credoau paganaidd; awgrymodd sylwebaethau mwy modern bod eu presenoldeb mewn eglwysi yn dangos parhad yn yr arfer o addoli duwiesau, arfer a gysylltir yn draddodiadol â'r safle hwnnw. Ymddengys hyn yn arbennig o gyffredin yn yr Iwerddon.
[Yn seiliedig ar wybodaeth oddi wrth Amgueddfa Sir Faesyfed].
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment