Pwysau stiliard a ddarganfuwyd yng Nghastell Trefaldwyn [delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Daethpwyd o hyd i'r pwysau stiliard hwn yng Nghastell Trefaldwyn yng ngwanwyn 1970. Mae'r pwysau yn cario arfbeisiau Lloegr, Poitou, Richard, Iarll Cernyw, a'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Credir ei fod yn dyddio o ail hanner y 13eg ganrif. Yma gwelir symbol eryr deuben i gynrychioli marsiandwyr Hansa.
Dechreuwyd adeiladu Castell Trefaldwyn ym 1233 gan Harri III, ar safle hen gastell tomen a beili. Codwyd y castell yn ystod ymgyrch Harri III yn erbyn Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) ac fe'i roddwyd yn nwylo Hubert de Burgh ym 1228. Roedd y castell yn nwylo'r teulu Mortimer yn ystod y 14eg ganrif. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, ymladdwyd brwydr fawr yn Nhrefaldwyn ym mis Medi 1644, gyda hyd at 9,000 o filwyr yn cymryd rhan yn yr ymladd. Ildiodd y castell i'r Seneddwyr ac fe'i dinistriwyd ymron yn llwyr yn dilyn y rhyfel ar orchymyn y Senedd.
Ffynonellau:
http://www.castlewales.com/montgom.html
Cadw, 'A Nation Under Siege: The Civil War in Wales, 1642-48' (London, HMSO, 1991).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment