Cadair Fath
Disgrifiadau
James Heath o Gaerfaddon a gynlluniodd y math hwn o gadair ar olwynion tua'r flwyddyn1750 ac yn ystod y 75 mlynedd a ddilynodd bu'n cystadlu gyda'r gadair gludo am boblogrwydd. Ei bwriad yn wreiddiol oedd ei defnyddio i gludo'r methedig neu'r henoed.
Dyma enghraifft o'r math mwyaf cyffredin sydd â dwy olwyn wedi'u cysylltu ag echel o dan y sedd gydag olwyn droi fechan yn y blaen yn ei chynnal. Gellid gwthio'r gadair o'r cefn a'i llywio gyda'r rhod hir a oedd yn gysylltiedig â'r olwynion blaen, gallai'r sawl a oedd yn eistedd ynddi ei rheoli. Cynlluniwyd y gadair gyfan gyda llinellau llyfn. Roedd y gadair bath yn arbennig o boblogaidd yn ystod Oes Victoria ac fe'i defnyddiwyd mewn cyrchfannau glan môr. Roedd gan rai gadeiriau bath gorchudd symudol a oedd yn amddiffyn y teithiwr rhag y gwynt a'r glaw.
[Ffynhonnell: Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-Pysgod]
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment