Map o ystâd Deuddwr, Sir Drefaldwyn, 1748 [delwedd 1 o 6]
Disgrifiadau
Mae'r map hwn, sydd wedi'i dynnu a'i liwio â llaw, yn disgrifio'r tiroedd sy'n berchen i John Newport yn Neuddwr, Sir Drefaldwyn. Fe'i engrafwyd gan John Rocque, archwiliwr blaenllaw ac engrafwr yng nghanol y ddeunawfed ganrif. Mae dyfrlliwiau a'r lliw du wedi'u defnyddio i ddangos y coed, y tiroedd, yr afon a'r caeau, tra bod aur wedi'i ddefnyddio i arsgrifio enwau trefgorddau arbennig. Mae ymyl du yn amgylchynu'r ddelwedd a gellir gweld cwmpawd addurniadol o tua 230mm o hyd yn y darn uchaf ar y chwith. Mae'r map ei hun yn mesur 294cm o hyd a 357cm o led.
Ieirll Bradford oedd yn berchen ar Ystâd Newport, ac yn ychwanegol at y rhan hon yn Sir Drefaldwyn, roedd ganddynt ystadau mawr yn Swydd Amwythig a Swydd Stafford. Ym 1734, bu farw Henry, trydydd Iarll Bradford, gan adael ei ystadau i John Harrison. Plentyn oedd John ar y pryd a mab honedig yr Arglwydd Bradford oddi wrth ei feistres Anne Smyth. Heb fawr o syndod, achosodd hyn ymgyfreithiad ond ym 1739, profwyd yr ewyllys yn y Canghellys, ac ar yr un pryd pasiwyd deddf i alluogi John Harrison i gymryd yr enw Newport. Er gwaethaf yr honiad o wallgofrwydd a ddaethpwyd yn ei erbyn ym 1740, derbyniodd John ystadau yr Arglwydd Bradford ym 1747 pan yn 26 mlwydd oed.
Fe ymddengys bod gan y teulu Newport gysylltiadau hir â Sir Drefaldwyn ac roeddynt yn Arglwyddi'r faenor yn Neuddwr. Yn ôl pob tebyg, lluniwyd map Deuddwr i nodi dyfodiad John Newport i mewn i ystadau Newport yn 26 mlwydd oed er mae bosibl hefyd mai John Newport a gyflogodd Rocque, un o archwilwyr mwyaf blaenllaw Prydain, er mwyn ychwanegu teilyngdod at y ffaith ei fod fel mab anghyfreithlon wedi brwydro yn y Canghellys i brofi ewyllys ei dad.
Mae'r map yn un o blith pedwar y gwerthodd Blackwells Rare Books yn 2002. Mae'r tri arall yn perthyn i Swydd Amwythig ac fe'u prynwyd gan Wasanaeth Ymchwil a Chofnodion Swydd Amwythig. Roeddynt i gyd yn wreiddiol yn ffurfio rhan o gofnodion Ystâd Newport yr Ieirll Bradfod, Parc Weston a oedd yn gweinyddu'r ystadau mawr yn Swydd Amwythig a Swydd Stafford. Cedwir y rhan fwyaf o gofnodion Parc Weston gan Wasanaeth Archifau Swydd Stafford a Stoke on Trent.
Y prif gynhaliaeth ar gyfer y map yw papur hufen, plaen o bwysau canolig (20 dalen) ac mae wedi'i lynu i gynfas wead, ysgafn. Mae polyn pren, sydd wedi'i gysylltu â hoelion, yn trymhau'r ddau gynhalydd. Mae'r cynfas yn gorgyffwrdd ar y brig ac mae ganddo 3 gwregys lledr bychan wedi'u gwnïo iddo, a ddefnyddir i gadw'r map yn ei le pan gaiff ei rolio.
Prynwyd y map gan Archifau Powys gyda chefnogaeth ariannol oddi wrth Resource/V&A Purchase Grant Fund.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment