Adroddiad Prentisiaeth Daniel Owen, 1851[delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Adroddiad Prentisiaeth Daniel Owen, 1851. Mae'r adroddiad yn nodi fod Daniel Owens [sic], 14 oed, o Faes y Dref, yr Wyddgrug, mab Sarah Owens, am gael ei brentisio i Angel Jones a'i Fab, yr Wyddgrug, yn brentis teiliwr am gyfnod o bum mlynedd. Yn dilyn marwolaeth Angel ym 1859, bu Daniel Owen yn gweithio i'w fab, John Angel Jones, cyn agor ei siop ei hun yn New Street tua 1875, mewn partneriaeth gyda James Lloyd, dilledwr o Langynhafal. Bu'r ddau'n cydweithio dan yr enw 'Owen and Lloyd - Hatters & Outfitters' hyd 1880 pan dalodd Daniel Owen £270 er mwyn prynu siâr Lloyd. Bu Daniel Owen yn gweithio fel teiliwr ar ei liwt ei hun tan ei farwolaeth ym 1895.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment