Copi o ddeiseb at yr Arglwydd Ganghellor, 5 Rhagfyr, 1677 [tudalen 1 o 3]
Disgrifiadau
Deiseb, ac archeb gopi at Richard Raynsford (1605-1679), Arglwydd Ganghellor, 5 Rhagfyr 1677. Cyflwynwyd deiseb ar ran William Morgan Ysg., yn dweud ei fod ef a'i wraig y Fonesig Elizabeth Dayrell wedi gwahanu a'i bod hi ers hynny wedi cyflawni sawl afradlonrwydd, yn sgil yr afiechyd sy'n ei phoeni. Cyngor y meddygon yw y gall gwelyfod a meddyginiaeth leihau neu gael gwared â'r salwch yn llwyr a bod Dr Thomas Allen yn gymwys i weithredu yn yr achos hwn.
Felly mae'r rhain yn gofyn ichi, er mwyn rhwystro torri heddwch HM, gyda chymorth ffrindiau a pherthnasau William Morgan, i roi y Fonesig Elizabeth Dayrell mewn gwarchodaeth a'i gadael o dan ofal Dr Thomas Allen.
Mae un o'r arnodiadau'n gwbl amherthnasol, i'r perwyl bod Richard Ballard at Corneles [Cornelius] Vanbesler ar yr Hopewell [gwobr?] Jeremiah Cobb o'r Canarys i Lundain ar 4% £25. Efallai mai nodyn oedd hwn, neu amlen llythyr sydd wedi'i golli ers hynny?
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment