Skip to main content

Copi o lythyr oddi wrth y Foneddiges Elizabeth Dayrell at ei gŵr, William Morgan o Dredegar, 7 Tachwedd 1677 [tudalen 1 o 2]

Disgrifiadau

Dyma grynodeb o lythyr a ysgrifennwyd yng Nghasnewydd gan y Foneddiges Elizabeth Dayrell at ei gŵr [William Morgan, Tredegar] ychydig wedi iddi ei adael.

Diolcha iddo am ei rodd o 'chariot' [cerbyd bach pedair olwyn gyda seddau cefn yn unig], rhywbeth bach o'i gymharu â'i haelioni eraill, ac yn ei chyflwr presennol ni all wneud dim mwy na chofio yn ddiolchgar. Gobeithia y bydd ef fyw i ddarganfod pwy oedd y gelynion marwol a achosodd iddynt wahanu. Gofynna iddi faddau iddo am fod mor ddigwulydd ag ysgrifennu ato.

Mewn ôl-nodyn dywed ei bod yn dymuno dod i Lundain gyda 'the originall deeds of disposition of my smale estate in my owne power' [h.y., ei chytundeb priodas?], fel y gall ef ei losgi gyda'i ddwylo ei hun.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Morgan, Elizabeth, of Tredegar
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001
Publisher Ref:
GTJ30175
Eitem wedi’i llwytho:
28/1/2010
Date originally created:
7/11/1677
Gwelediadau:
1354
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment