Skip to main content

Llythyr heb ddyddiad (c. 1797-1804) oddi wrth Ann Thomas (Ann Griffiths yn ddiweddarach) at Elizabeth Evans [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Dyma lythyr yn llawysgrifen yr emynyddes a'r cyfrinydd, Ann Griffiths (1776-1805) a aned yn ffermdy Dolwar Fach, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn.

Fel nifer o'i chyfoedion, profodd Ann Griffiths droedigaeth ysbrydol dan ddylanwad y diwygiad Methodistaidd. Aeth ymlaen i ysgrifennu rhai o emynau pwysicaf yr iaith Gymraeg, cerddi a ystyrir gan lawer ymhlith campweithiau barddoniaeth grefyddol Ewrop.

Mae dylanwad y beibl Cymraeg a chanu gwerin ei bro yn drwm ar ei gwaith. Daeth hefyd i gysylltiad â syniadau diwinyddol ei chymydog, y pregethwr, John Hughes.

Ysgrifennodd Ann Griffiths y llythyr hwn at ei chyfaill, Elizabeth Evans. Credir mai Elizabeth oedd chwaer yng nghyfraith John Hughes. O'r wyth llythyr o'i heiddo sydd wedi goroesi, dyma'r unig enghraifft o lythyr yn llawysgrifen Ann Griffiths. Mae ei llythyrau yn fynegiant o brofiad ysbrydol dwys ac yn dangos inni pa fath o bynciau a drafodid yn seiadau Methodistaidd y cyfnod. Yn ôl Saunders Lewis, maent 'yn cynnwys peth o ryddiaith grefyddol fwyaf aruchel y Gymraeg'.

Fe briododd Ann Griffiths ym 1804 ond bu farw y flwyddyn ganlynol, yn 29 mlwydd oed, yn fuan ar ôl rhoi genedigaeth i blentyn na fu fyw ond am bythefnos.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Griffiths, Ann
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001
Publisher Ref:
GTJ30171
Eitem wedi’i llwytho:
28/1/2010
Date originally created:
1797-1804
Gwelediadau:
1494
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment