Taith drwy Ogledd Cymru gan Jinny Jenks, 1772, wyneb-ddalen
Taith drwy Ogledd Cymru gan Jinny Jenks, 1772, wyneb-ddalen
Disgrifiadau
Dyma ddyddiadur a gadwodd Miss Jinny Jenks o Enfield wrth iddi deithio o gwmpas Gogledd Cymru yn ystod haf 1772. Mae'n treulio rhan fwyaf o'i hamser yn Nyffryn Clwyd ac mae'n disgrifio'r tirlun, y bobl, a'r tai lle mae'n aros. Dyma un o'r enghreifftiau cynharaf o'r math hwn o lenyddiaeth.
Mae brwdfrydedd Jinny Jenks am y wlad a'r bobl yn amlwg wrth iddi ysgrifennu ac mae'n aml yn mynegi awydd i ddychwelyd i Gymru. Ni wyddom os y cafodd gyfle i wneud hynny, ond dywed ôl nodyn ar ddiwedd y llawysgrif i Jinny Jenks farw chwe mlynedd ar ôl yr ymweliad hwn â Chymru, ym 1778, yn 41 mlwydd oed.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment