Un o'r ceir cyntaf i'w gweld yng Nghwmdu 1902
Disgrifiadau
Dyma ffotograff o Mr Edward Lester, y tu allan i'r Cwmdu Inn. Ef oedd perchennog ffatri Tunplat Caerfyrddin ac roedd ar ei ffordd i ymweld â Phlasdy Edwinsford yn 1902. Cofrestrwyd y car Ford Progress BX8 ym 1903 ac mae'n ymddangos iddo greu llawer o gyffro yng Nghwmdu. Cyhoeddwyd y plât rhif am y tro cyntaf ym 1903 ond daeth deddfwriaeth i rym ar 1 Ionawr 1904 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cerbyd gael ei gofnodi ar gofrestr swyddogol. Yn y lle cyntaf, byddai'r platiau rhif yn cynnwys côd un neu ddwy lythyren ac yna cyfres o rifau o 1 i 9999. Dyrannwyd y codau yn nhrefn maint y boblogaeth (o gyfrifiad 1901) o awdurdodau lleol, 'A' = Llundain a 'BX' = Sir Gaerfyrddin. Felly, car Mr Lester oedd yr 8fed car i'w gofrestru yn Sir Gaerfyrddin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment