Skip to main content

'Llangorse Lake' gan Thomas Jones (olew)

Disgrifiadau

Ganed Thomas Jones (1742-1803), arlunydd tirluniau, ym mhlwyf Cefnllys, Sir Faesyfed, ond fe'i cysylltir yn bennaf a phlasty Pencerrig, Llanelwedd, lle cafodd ei fagu. Gan fod ei rieni yn dymuno iddo fynd yn offeiriad, derbyniodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ond gadawodd ym 1761 er mwyn canolbwyntio ar ei waith peintio. Aeth i Lundain, gan dderbyn hyfforddiant yn y lle cyntaf gan Shipley yn yr Academi Frenhinol, ac yna gan y paentiwr enwog o Gymru, Richard Wilson.

Datblygodd ei yrfa yn llwyddiannus yn ystod y degawd canlynol, wrth iddo ganolbwyntio'n bennaf ar dirluniau - gan gynnwys nifer o'r tirlun o amgylch Pencerrig.

Ym 1776 aeth Thomas Jones i'r Eidal ac mae'r darluniau a baentiwyd ganddo yn Rhufain a Napoli, o adeiladau a oedd i'w gweld o'i lety, bellach yn cael eu hystyried yn ddarnau hynod wreiddiol, a oedd ganrif ar flaen eu hamser. Cafodd Thomas Jones ddylanwad mawr ar arlunwyr fel Corot, ac felly, ar y peintwyr Argraffiadol Ffrengig. Yn wir, mae bellach yn cael ei ystyried gan haneswyr celf fel arlunydd o bwys yn natblygiad y diwylliant celf Ewropeaidd.

Ym 1783 dychwelodd i Brydain gan arddangos ei waith yn rheolaidd yn yr Academi Brydeinig. Pan fu farw ei frawd hynaf, etifeddodd Thomas blasty Pencerrig ac yno y bu'n byw, gyda'i wraig Danaidd a'i ddwy ferch, hyd ei farwolaeth ym 1803.

Owner:
Brecknock Museum & Art Gallery
Crëwr:
Thomas Jones
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog
Copyright Details:
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog 2001
Publisher Ref:
GTJ08248
Eitem wedi’i llwytho:
27/1/2010
Date originally created:
1700-1799
Gwelediadau:
1669
Ffefrynnau:
1

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment