Y sgwner, Ezel, yn cael ei hatgyweirio yn harbwr Aberteifi, 19eg ganrif
Y sgwner, Ezel, yn cael ei hatgyweirio yn harbwr Aberteifi, 19eg ganrif
Disgrifiadau
Wedi ei hadeiladu yng Nghaerdydd ym 1873 ac yn pwyso 140 o dunelli, roedd 'Ezel' yn un o'r ychydig longau a gofrestrwyd yn Aberteifi ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cofrestrwyd dros dri chant o longau yn y porthladd ar droad y 19eg ganrif, ond ers hynny aeth i mewn i gyfnod o ddirywiad, yn rhannol oherwydd bod llaid wedi ymgasglu ar wely'r afon.
Suddwyd yr 'Ezel' trwy iddi gael ei saethu gan long danfor Almaenig yn y Sianel ym 1917.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment