Iardiau adeiladu ac atgyweirio llongau yn Aberteifi, 19eg ganrif
Disgrifiadau
Yn ystod yr 17eg ganrif, wrth i borthladd Aberteifi ddatblygu fel canolfan fasnach a physgota penwaig darparwyd marchnad ar gyfer diwydiant adeiladu llongau oedd yn prysur ehangu, ac arweiniodd y cynnydd pellach mewn masnach yn ystod ail hanner y 18fed ganrif at adeiladu llongau mwy.
Cyfyngid maint y llongau a adeiladwyd i 160 o dunelli oherwydd y bar tywod ar y ffordd i mewn i'r porthladd, ac, felly, roedd y rhan fwyaf o'r llongau a wnâi fordeithiau ar draws yr Atlantig yn cael eu hadeiladu mewn lleoedd fel Cei Newydd, Cas-gwent, Poole ac Abertawe. Er hynny, mwynhaodd diwydiant adeiladu llongau Aberteifi ei oes aur rhwng 1792 a 1866, pryd cafodd tua 140 o longau eu hadeiladu mewn iardiau lleol.
Dechreuodd cyfnod hir dirywiad y diwydiant ar ddiwedd y 1840au. Erbyn y 1880au, defnyddiwyd yr iardiau'n bennaf ar gyfer torri hen longau'n ddarnau ac ar gyfer gwerthu rhannau, ac erbyn troad yr 20fed ganrif, roedd adeiladu llongau yn Aberteifi bron â dod i ben.
Ffynhonnell:
W. J. Lewis, Gateway to Wales: A History of Cardigan (Caerfyrddin, 1990)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment