Peintiad o'r llong 'John Pierce' a adeiladwyd yn Aberaeron ym 1860
Peintiad o'r llong 'John Pierce' a adeiladwyd yn Aberaeron ym 1860
Disgrifiadau
Roedd y 'John Pierce' yn sgwner a oedd yn pwyso 97 tunnell ac fe'i hadeiladwyd yn Aberaeron ym 1860 gan Evan Jones. Roedd yn 75 troedfedd o hyd, yn 21 troedfedd o led ac yn 10 troedfedd o ddyfnder.
Fe'i henwyd ar ôl John Pierce, mab John Nathanile Evans o Benygarreg, ffermwr, a anwyd ym 1859. Ei pherchennog ym 1883 oedd John Hughes o Forth a David Jones (1827-1906) o Bentwr, oedd yn Gapten arni.
Ffynhonnell: 'Aberayron 1971 Exhibition of Paintings of Sailing Ships and Ships Equipment by Gwilym M. Jones' (Catalog Arddangosfa)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment