Uwchfrigadydd Syr Luke O'Connor VC, Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Disgrifiadau
Ganed Luke O'Connor (1831-1915) yn Iwerddon ac ym 1849, pan oedd yn 18 oed, ymunodd â 23ain Catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Erbyn 1851 roedd wedi cael ei ddyrchafu'n Sarsiant ac fe'i penodwyd yn Gapten wyth mlynedd yn ddiweddarach. Ym 1880, dyrchafwyd ef yn Is-gyrnol y 23ain Gatrawd. Ym 1914 fe'i penodwyd yn Gyrnol Mygedol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Enillodd O'Connor nifer o fedalau yn ystod ei yrfa filwrol. Ym 1857 derbyniodd fedal y VC (Croes Victoria) am ei ddewrder ym Mrwydr Alma (1854) a'r ymosodiad ar y Redan (1855), yn ystod Rhyfel y Crimea. Roedd O'Connor ymhlith un o'r milwyr Prydeinig cyntaf i dderbyn y VC. Cynhaliwyd y seremoni anrhydeddu gyntaf o'i bath yn Hyde Park, Llundain, ar 26 Mehefin 1857, a chyflwynwyd y fedal iddo gan y Frenhines Victoria. Mae'r VC a'r medalau eraill a enillodd Luke O'Connor bellach i'w gweld yn Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Caernarfon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment