'Cerdd o Hanes Sessiwn yn Nghymru' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1
'Cerdd o Hanes Sessiwn yn Nghymru' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1
Disgrifiadau
Ganed John Jones neu Jac Glan-y-gors (1766-1821) yng Nglan-y-gors, Cerrigydrudion, Sir Ddinbych. Aeth i Lundain ym 1789 ac erbyn 1793 ef oedd rheolwr neu berchennog y 'Canterbury Arms' yn Southwark. Roedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Gwyneddigion ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion ym 1795. Roedd Glan-y-gors yn fwyaf adnabyddus am ei gerddi a'i faledi dychanol a oedd yn adlewyrchu ei safbwyntiau radical. Yn y faled hon, mae'n troi ei sylw at drefn y llysoedd yng Nghymru a'r problemau ieithyddol a oedd yn codi oherwydd safon isel y cyfieithiadau a gafwyd yn y llysoedd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment