Piano David Lloyd George
Piano David Lloyd George
Disgrifiadau
Roedd y piano hwn yn eiddo i David Lloyd George ac roedd yn cael ei gadw yn rhif 10 Stryd Downing tra'r oedd yn Brif Weinidog rhwng 1916 a 1922. Cafodd y piano ei wneud gan Gwmni Ibach, Barmen, yr Almaen, ym 1896. Enw'r math hwn o biano yw'r 'Ibach-Stufzflügel' neu 'baby grand'. Roedd Lloyd George yn hoff iawn o gerddoriaeth a phan adawodd Stryd Downing ym 1922 aeth â'r piano gydag ef i rif 2 Ffordd Addison. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd y piano ei gadw mewn storfa ddiogel ac yn dilyn marwolaeth Lloyd George ym 1945, etifeddwyd y piano gan ei ferch, y Foneddiges Olwen Carey Evans.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment