John Owen Williams (Pedrog) a Mrs Williams, Llanrug, yn Eisteddfod Llannerch-y-medd, 1910
John Owen Williams (Pedrog) a Mrs Williams, Llanrug, yn Eisteddfod Llannerch-y-medd, 1910
Disgrifiadau
Roedd y bardd Pedrog (John Owen Williams) (1853-1932) yn frodor o Lanbedrog, Sir Gaernarfon. Gweithiodd fel garddwr ac yna fel gwerthwr yn Lerpwl cyn dechrau ar ei waith fel pregethwr gyda'r Annibynwyr yn y ddinas ym 1884, lle'r arhosodd tan 1930. Ef oedd Archdderwydd Cymru rhwng 1928 a 1932 a Chadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ym 1927. Cyfrannai'n gyson i'r wasg Gymraeg ac enillodd nifer helaeth o wobrau eisteddfodol. Bu'n golygu'r cyfnodolyn 'Y Dysgedydd' rhwng 1922 a 1928.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment