Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, cyf. 3, 1747-60 [t. 1, delwedd 1 o 8]
Disgrifiadau
Mae'r tudalennau canlynol wedi eu dethol o drydedd cyfrol dyddiadur William Bulkeley (1691-1760), Brynddu, Llanfechell, Sir Fôn. Roedd William yn fab i William Bulkeley a Lettice Jones o Langoed, ac yn ddisgynnydd i Syr Richard Bulkeley, Baron Hill, Siryf Môn ym 1596. Ysgrifennodd William Bulkeley ei ddyddiadur mewn tair cyfrol, ond yn anffodus mae'r ail gyfrol (1743-7) ar goll. Mae'r dyddiaduron yn werthfawr iawn gan eu bod yn cynnig portread byw o fywyd Môn yn y ddeunawfed ganrif. Maent yn cynnwys manylion am fywyd ar fferm, cyflogau, prisiau ac yn y blaen, ac nid oedd yr un diwrnod yn mynd heibio heb i William Bulkeley nodi'n ofalus union gyfeiriad y gwynt! Gellir darllen adysgrif o rannau o'r dyddiadur yn 'Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn' (1931).
Ar dudalen gyntaf trydedd cyfrol ei ddyddiadur (9 Awst 1747), mae William yn cyfeirio at nifer y marwolaethau yn yr ardal o ganlyniad i'r frech wen a'r frech goch.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment