Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, cyf. 1, 1734-43 [t. 1, delwedd 1 o 18]
Disgrifiadau
Mae'r tudalennau canlynol wedi eu dethol o gyfrol gyntaf dyddiadur William Bulkeley (1691-1760), Brynddu, Llanfechell, Sir Fôn. Roedd William yn fab i William Bulkeley a Lettice Jones o Langoed, ac yn ddisgynnydd i Syr Richard Bulkeley, Baron Hill, Siryf Môn ym 1596. Ysgrifennodd William Bulkeley ei ddyddiadur mewn tair cyfrol, ond yn anffodus mae'r ail gyfrol (1743-7) ar goll. Mae'r dyddiaduron yn werthfawr iawn gan eu bod yn cynnig portread byw o fywyd Môn yn y ddeunawfed ganrif. Maent yn cynnwys manylion am fywyd fferm, cyflogau, prisiau ac yn y blaen, ac nid oedd yr un diwrnod yn mynd heibio heb i William Bulkeley nodi'n ofalus union gyfeiriad y gwynt! Gellir darllen adysgrif o rannau o'r dyddiadur yn 'Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn' (1931).
Ar dudalen gyntaf cyfrol gyntaf ei ddyddiadur (Mawrth 1734), mae William yn disgrifio'r gwaith ar ei dir. Plannodd nifer o hadau a choed. Ar 31 Mawrth aeth i'r eglwys lle cafodd dderbyniad digon oeraidd gan ddau o'i gyd-aelodau.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment