Skip to main content

John Davies, 'Antiquae Linguae Britannicae ... ' (1621) [wynebddalen a'r tudalen gyferbyn]

Disgrifiadau

Tudalen flaen y llyfr 'Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta' gan Dr John Davies, sef llyfr gramadeg Cymraeg a gyhoeddwyd yn Lladin ym 1621. Mae'r copi arbennig hwn o'r llyfr hefyd yn cynnwys englyn Lladin a gyfansoddwyd gan y bardd Goronwy Owen (Goronwy Ddu o Fôn) (1723-69) ym 1738.

Roedd John Davies ( tua 1567-1644), yn ysgolhaig, geiriadurwr a gramadegydd pwysig. Ym 1632 cyhoeddodd 'Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarium Duplex', sef Geiriadur Cymraeg-Lladin. Yn ogystal, chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o gyfieithu'r testunau Beiblaidd i'r Gymraeg. Treuliodd gyfnod yn cynorthwyo'r Esgob William Morgan gyda'r cyfieithiad o'r Llyfr Gweddi Cyffredin (1599) ac yn ddiweddarach ef oedd yn bennaf cyfrifol am baratoi'r argraffiadau diwygiedig a phoblogaidd o'r Beibl Cymraeg (1620) a'r Llyfr Gweddi Cyffredin (1621). Roedd Davies hefyd yn offeiriad ac fe'i gysylltir yn bennaf â phlwyfi Mallwyd a Llanymawddwy yn Sir Feirionnydd.

Owner:
The Welsh Library, University of Wales Bangor Information Services
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Y Llyfrgell Gymrei
Copyright Details:
Y Llyfrgell Gymreig, Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Cymru, Bangor 2004
Publisher Ref:
GTJ18318
Eitem wedi’i llwytho:
26/1/2010
Date originally created:
1621-1730
Gwelediadau:
2211
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment