Skip to main content

Medal Cwpan Pêl-droed y Byd a gyflwynwyd i'r dyfarnwr Mervyn Griffiths, 1954 [delwedd 1 o 3]

Disgrifiadau

Cyflwynwyd y medal Cwpan Byd hwn i'r dyfarnwr pêl-droed Mervyn Griffiths, am ei gyfraniad i bencampwriaeth Cwpan y Byd a gynhaliwyd yn y Swisdir ym 1954.
Roedd Mervyn Griffiths yn frodor o Abertyleri, Sir Fynwy. Ar ôl iddo adael yr ysgol bu'n gweithio fel athro yn Nyfnaint cyn symud i ysgol Durham Road, Casnewydd, Sir Fynwy, ym 1932. Ym 1934, dechreuodd ddyfarnu yng ngemau Cynghrair Casnewydd a'r Cylch. Erbyn 1939 roedd wedi cael ei benodi'n llimanwr gyda'r Gynghrair Bêl-droed ac ym 1949 dewiswyd ef i ddyfarnu ei gêm cwpan Lloegr (F.A.) gyntaf. Dewiswyd ef i ddyfarnu dwy gêm ryngwladol y flwyddyn honno hefyd, sef y gêm rhwng Lloegr a'r Alban a rhwng Lloegr ac Iwerddon. Chwaraeodd Griffiths ran bwysig ym mhencampwriaethau Cwpan y Byd ym 1950 a 1954. Ef oedd y llimanwr yng ngêm derfynol Cwpan y Byd a gynhaliwyd yn y Swisdir ym 1954 rhwng Hwngari a'r Almaen. Roedd pawb yn disgwyl i Hwngari ennill y bencampwriaeth ond ni chafodd gôl dyngedfenol gan y chwaraewr Hwngaraidd, Pukas, ei chaniatáu gan i Griffiths ddyfarnu bod y chwaraewr yn cam-sefyll. Arhosodd y sgôr yn 3-2 ac aeth yr Almaen ymlaen i ennill y gêm a Chwpan y Byd.

Owner:
Wrexham County Borough Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Bwrdeistref Sir Wrecsam
Copyright Details:
Wrexham County Borough Museum 2002
Publisher Ref:
GTJ18242
Eitem wedi’i llwytho:
25/1/2010
Date originally created:
1954
Gwelediadau:
1464
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment