Skip to main content

Dyddiadur William Searell, Beddgelert a Chaernarfon, 1845-6 [delwedd 1 o 66]

Disgrifiadau

Dyddiadur William Searell, Sygun Fawr, Beddgelert, 1845-6. Ganed William Searell ym 1831 ac fe ysgrifennodd y dyddiadur hwn pan oedd yn 14-15 mlwydd oed. Symudodd ei dad, Allen Searell, i'r ardal o Ddyfnaint i weithio fel rheolwr cyffredinol mwynglawdd copr Sygun, ond erbyn tua 1843-4 roedd wedi dechrau ei fusnes ei hun yn chwarel lechi Cwm Orthin. Erbyn 1845, roedd William yn gweithio yn ffowndri'r Union, Caernarfon, ac yn teithio yn ôl ac ymlaen i Feddgelert ar y penwythnosau.
Mae'r cofnod cyntaf yn y dyddiadur, dyddiedig 18 Gorffennaf 1845, yn dilyn y cofnod olaf yn ei ddyddiadur blaenorol. Mae William yn cyrraedd yn ôl i Borthaethwy yn dilyn ei drip i Lerpwl mewn agerlong. Y diwrnod canlynol, mae'n dychwelyd i'w waith yn y ffowndri yng Nghaernarfon.

Owner:
Conwy Archive Service
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Gwasanaeth Archifau Conwy
Copyright Details:
Gwasanaeth Archifau Conwy 2002
Publisher Ref:
GTJ18162
Eitem wedi’i llwytho:
25/1/2010
Date originally created:
18-19/07184573112/1845
Gwelediadau:
1454
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment