Llythyr oddi wrth y Parch. D. Lloyd Jones at y Parch. Michael D. Jones, 1 Awst 1878 [delwedd 1 o 4]
Llythyr oddi wrth y Parch. D. Lloyd Jones at y Parch. Michael D. Jones, 1 Awst 1878 [delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Roedd y Parch. D. Lloyd Jones, a ddaeth yn aelod blaenllaw o'r mudiad gwladfaol yng Nghymru yn y 1860au hwyr, wedi ymfudo i'r Wladfa ym 1874 i weithio fel cenhadwr ymhlith brodorion Patagonia. Yn y llythyr hwn, dywed fod y cynaeafau gwael wedi cael effaith andwyol ar fywyd crefyddol y Wladfa. Mae'n amhosibl cael mwy nag un cwrdd crefyddol llawn ar y Sul, ac 'nis gellir sefydlu cenhadaeth yma ym mysg y brodorion tra y ceir y Wladfa mor feddw ac anghrefyddol'. Pwysleisia'r angen am ddwy long fasnach a'r pwysigrwydd o sicrhau hunanlywodraeth drwy freinlen (charter).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment