Skip to main content

Llythyr oddi wrth L. P. H. [Lewis 'Patagonia' Humphreys] at Mrs Anne Jones, 1 Awst 1870 [delwedd 1 o 4]

Disgrifiadau

Yn y llythyr hwn at Mrs Anne Jones, mae Lewis Humphreys yn dweud ei fod yn dda ganddo glywed am lwyddiant ei gŵr, y Parch. Michael D. Jones, a Dr Pan Jones yn yr Unol Daleithiau. Teithiodd y ddau i'r Unol Daleithiau ym 1870 i godi arian i Goleg Annibynnol y Bala ac i hyrwyddo'r Wladfa Batagonaidd.

Derbyniodd Humphreys lythyr gan hen lanc o Sir Benfro a ymfudodd i Awstralia ond sydd bellach yn awyddus i ymfudo i Batagonia. Yn ddiweddar, darllenodd Humphreys lythyr a anfonodd Mr Matthews o'r Wladfa - roedd yn canmol 'y wlad a'r cnydau diweddaf' ond yn cwyno ynghylch 'diffyg manteision addysg i'r plant'. Wedi dweud ei fod am wneud ei orau i berswadio Cymry Awstralia i ymfudo i Batagonia, mae Humphreys yn gorffen ei lythyr drwy hysbysu ei fwriad i ddychwelyd i Batagonia cyn gynted â phosibl.

Owner:
Department of Manuscripts and Archives, University of Bangor
Crëwr:
Humphreys, L. P. H.
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Adran Archifau a Llawysgrifa
Copyright Details:
Adran Archifau a Llawysgrifau, Prifysgol Cymru, Bangor 2010
Publisher Ref:
GTJ17849
Eitem wedi’i llwytho:
21/1/2010
Date originally created:
1/8/1870
Gwelediadau:
1146
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment