Penderfyniadau a basiwyd mewn cyfarfod o dalwyr y degwm, Tŷ Nant, Llangwm, 1886 [delwedd 1 o 2]
Penderfyniadau a basiwyd mewn cyfarfod o dalwyr y degwm, Tŷ Nant, Llangwm, 1886 [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Pasiwyd y penderfyniadau hyn mewn cyfarfod o dalwyr y degwm a gynhaliwyd yn Llangwm, Sir Ddinbych, ym mis Tachwedd 1886. Yn dilyn cyfnod hir o ddirwasgiad yn y diwydiant amaethyddol, penderfynodd ffermwyr Anghydffurfiol Llangwm ofyn am ostyngiad yn eu taliadau degwm.
Golygai trefn y degwm fod yn rhaid i blwyfolion gynnal eu hoffeiriaid drwy roi degfed rhan eu cynnyrch i'r offeiriad lleol. Gan fod nifer fawr o'r Cymry yn Anghydffurfwyr, roeddynt yn teimlo'n ddig iawn bod yn rhaid iddynt gyfrannu at yr Eglwys Anglicanaidd. Gwrthododd nifer o ffermwyr dalu'r degwm gan arwain at brotestiadau a gwrthdaro gyda'r awdurdodau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment