Llythyr oddi wrth Humphrey Jones, prentis fferyllydd yn Llundain, at ei rieni yn Llangollen, 17 Awst 1854 [delwedd 1 o 4]
Llythyr oddi wrth Humphrey Jones, prentis fferyllydd yn Llundain, at ei rieni yn Llangollen, 17 Awst 1854 [delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Anfonodd Humphrey Jones y llythyr hwn, dyddiedig 17 Awst 1854, at ei rieni o Lundain. Disgrifia ei fywyd yn y siop fferyllydd lle mae'n gweithio. Mae'n rhaid iddo godi am chwech bob bore ac agor y siop am hanner awr wedi chwech. Dywed fod gwraig sy'n byw gerllaw yn golchi ei ddillad, mae hi'n codi 15 swllt bob chwarter am wneud y gwaith. Dywed ei fod yn derbyn digon o fwyd yn ei lety. Nid yw mor siŵr ei fod yn dysgu rhyw lawer gan ei gyflogwr newydd gan ei fod yn 'bur anwybodus fel Druggist'. Esbonia pam ei fod wedi penderfynu mynychu'r eglwys yn Moorfields.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment