Skip to main content

Lewis Morris, 'Tlysau yr Hen Oesoedd' (Caergybi, 1735) [clawr, delwedd 1 o 16]

Disgrifiadau

Copi gwreiddiol o argraffiad cyntaf 'Tlysau yr Hen Oesoedd' gan Lewis Morris. Argraffwyd y rhifyn hwn yng Nghaergybi ym 1735 ac mae'n cynnwys detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg.

Ganed Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn, 1701-65), y bardd, ysgolhaig a'r mapiwr, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd, Sir Fôn, ac ef oedd yr hynaf o'r tri brawd a adwaenir fel 'Morrisiaid Môn'. Pan oedd yn ŵr ifanc, bu'n gweithio fel syrfêwr tir gydag ystâd Bodorgan. Ym 1729 cafodd ei benodi'n swyddog tollau ym Miwmares a Chaergybi, swydd a fu'n sbardun iddo gynnal ei arolwg arloesol o borthladdoedd ac arfordir Cymru. Cyhoeddwyd ei 'Plans of Harbours, Bars, Bays and Roads in St. George's Channel', a oedd yn cynnwys 25 o fapiau manwl, ym 1748.

Yn ystod y cyfnod hwn, ymwelodd Lewis Morris â Sir Aberteifi am y tro cyntaf a dechreuodd ymddiddori yn niwydiant mwyngloddio plwm yr ardal. Ni ddychwelodd i Sir Fôn a daeth yn swyddog tollau yn Aberdyfi. Ym 1746 cafodd ei benodi yn ddirprwy stiward maenorydd y Goron yn Sir Aberteifi, swydd a arweiniodd at gryn anghydfod rhyngddo â'r bonedd lleol a oedd yn herio hawl y Goron i gloddio am blwm. Ar yr un pryd, dechreuodd Morris ei hun gloddio am blwm yn yr ardal, ac ychwanegodd hyn at ei broblemau gyda'r teuluoedd bonedd lleol. Bu farw yn ei gartref yng Ngoginan ym 1765.

Roedd Morris yn cael ei ystyried yn awdurdod ar yr iaith Gymraeg. Bu'n paratoi argraffiad newydd o eiriadur John Davies, Mallwyd, a chasgliad o ddiarhebion Cymraeg ond ni chafodd amser i'w cwblhau. Roedd yn awdur nifer fawr o gerddi a darnau rhyddiaith ysgafn ac mae ei lythyrau, sydd yn aml yn llawn hiwmor a dychan, yn ffynhonnell hanesyddol bwysig.

Owner:
The Welsh Library, University of Wales Bangor Information Services
Crëwr:
Morris, Lewis
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Y Llyfrgell Gymrei
Copyright Details:
Y Llyfrgell Gymreig, Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Cymru Bangor 2004
Publisher Ref:
GTJ17409
Eitem wedi’i llwytho:
21/1/2010
Date originally created:
1735
Gwelediadau:
2540
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment