Apêl a gyhoeddwyd gan 'Gronfa Achos Enllib W. J. Parry Penrhyn', 30 Medi 1903
Disgrifiadau
Roedd W. J. Parry, Coetmor, Bethesda, yn un o arweinwyr mwyaf blaenllaw chwarelwyr gogledd Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Chwaraeodd ran allweddol yn hanes sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym 1874 a gwasanaethodd fel ysgrifennydd a llywydd yr Undeb am nifer o flynyddoedd. Yn ystod streic fawr Chwarel y Penrhyn, Bethesda (1900-03), gwasanaethodd Parry fel cadeirydd y Pwyllgor Lles a oedd yn gyfrifol am godi arian ar gyfer y chwarelwyr a oedd ar streic. Ym 1903, fodd bynnag, cafodd ei gyhuddo o enllibio ei hen elyn, Arglwydd Penrhyn, sef perchennog y chwarel. Mewn achos a glywyd yn yr Uchel Lys ar 10-12 Mawrth 1903, cafwyd Parry yn euog a chafodd ddirwy o £500 ynghyd â chostau. Wythnosau yn ddiweddarach, cafodd ei fychanu ymhellach pan benderfynodd Arglwydd Penrhyn ddwyn achos methdaliad yn ei erbyn.
Cyhoeddwyd yr apêl hon am gyfraniadau ariannol i'w gynorthwyo ar 30 Medi 1903.
Gw. J. Roose Williams, 'Quarryman's Champion: The Life and Activities of William John Parry of Coetmor' (Denbigh, 1978).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment