Skip to main content

Dysgl bridd gwasg-fowldiedig, a gynhyrchwyd yng Nghrochendy Brookhill, Bwcle, tua'r flwyddyn 1720

Disgrifiadau

Dysgl bridd gwasg-fowldiedig gyda llinellau slip llusg ar waelod slip melyn. Cloddiwyd y ddysgl hon i'r wyneb ar safle Crochendy Brookhill, Bwcle, lle cafodd ei gwneud tua 1690-1720.

Cafodd y ddysgl hon ei gwneud drwy wasgu'r clai mewn mowld amgrwm. Rhoddwyd slip hylif melyn ar y clai yn gyntaf, cyn ychwanegu slip brown. Cyn i'r clai sychu, cafodd y ddysgl ei hysgwyd i greu'r effaith marmor. Mae'r ymyl wedi cael ei orffen gyda phatrwm sgolop pendant.

Mae'r ardal o amgylch Bwcle wedi cael ei chysylltu â'r diwydiant crochenwaith ers y 13eg neu'r 14eg ganrif. Yn ystod y chwe chan mlynedd rhwng y cyfnod hwnnw a chanol yr ugeinfed ganrif, gwyddom bod 19 o safleoedd gwahanol wedi cynhyrchu amrywiaeth eang o grochenwaith yn yr ardal. Yn ystod yr 17eg a'r 18fed ganrif, roedd nifer o'r nwyddau hyn o safon uchel iawn ac roeddynt yn cael eu hystyried o'r un safon â'r nwyddau a gynhyrchid yn Swydd Stafford yn ystod yr un cyfnod.

Owner:
Buckley Heritage Centre
Crëwr:
Buckley Heritage Centre
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Canolfan Dreftadaeth Bwcle
Copyright Details:
Buckley Heritage Centre 2003
Publisher Ref:
GTJ17099
Eitem wedi’i llwytho:
21/1/2010
Date originally created:
1690-1720
Gwelediadau:
1802
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment