Adroddiad ar y Ffermydd a'r Adeiladau yn Sir Fôn a oedd yn eiddo i Elusen David Hughes, 1877 [wynebddalen, delwedd 1 o 38]
Disgrifiadau
Adroddiad ar y ffermydd a'r adeiladau fferm yn Sir Fôn a oedd yn eiddo i Elusen David Hughes ym 1877. Lluniwyd yr adroddiad gan John Roberts ac fe'i cyflwynwyd gerbron J. Rice Roberts, derbynnydd Elusen David Hughes, ar 12 Mehefin 1877. Ar y pryd, roedd y ffermydd a'r adeiladau hyn ym mherchnogaeth ffeodedigion neu ymddiriedolwyr Elusen David Hughes. Sefydlwyd yr elusen gan David Hughes, sylfaenydd Yr Ysgol Ramadeg Rad ym Miwmares ym 1603. Wedi sefydlu'r ysgol, prynodd David Hughes nifer o ffermydd yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon er mwyn darparu gwaddol parhaol i'w elusen. Prynwyd tir ychwanegol gan y ffeodedigion yn ddiweddarach ac roedd nifer o'r ffermydd hyn yn parhau ym mherchnogaeth yr elusen pan drosglwyddwyd yr ysgol i ofal y sir ym 1895.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment