Skip to main content

John Owen Jones (Ap Ffarmwr), tua 1890au

Disgrifiadau

Ganed John Owen Jones (ap Ffarmwr) yn Nhrefdraeth, Sir Fôn, ym 1861. Fe'i cofir yn bennaf am ei ymdrechion aflwyddiannus i sefydlu undeb llafur ar ran gweision fferm.
Roedd ap Ffarmwr ei hun yn fab ffarm ac er iddo dderbyn rhywfaint o addysg ffurfiol, gwnaeth ymdrech arbennig i addysgu ei hun. Treuliodd gyfnodau'n astudio yn Aberystwyth a Manceinion ac ym 1884-5, cafodd ei benodi'n ohebydd seneddol i Gwmni Papur Newydd Cenedlaethol Cymru (the Welsh National Newspaper Company), sef cyhoeddwr papurau Rhyddfrydol fel 'Y Genedl Gymreig' a'r 'North Wales Observer and Express'. 'Ap Ffarmwr' oedd y gohebydd seneddol Cymraeg llawn-amser cyntaf i'w benodi i swydd o'r fath. Dychwelodd i Sir Fôn ar ddiwedd y 1880au i sefydlu ysgol ramadeg breifat yn Nwyran ac yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd leisio ei bryderon ynghylch tranc gweithwyr amaethyddol yr ynys. Cyfrannodd nifer o erthyglau i bapur newydd 'Y Genedl Gymreig' dan y llys enw 'ap Ffarmwr', gan alw am ostyngiad yn nhaliadau'r degwm, trethi a rhenti a chodiad cyflog i weithwyr amaethyddol. Eto i gyd, ni fu ei ymdrechion i sefydlu undeb ar gyfer gweision fferm yn llwyddiannus, ac ym 1894 gadawodd Sir Fôn gan symud i dde Cymru lle'r oedd wedi ei benodi'n olygydd y 'Merthyr Times'. Ym 1897 symudodd i Nottingham lle bu farw ym 1899. Cafodd ei gladdu yn Nwyran, Sir Fôn.

Darllen pellach: David A. Pretty, 'The Rural Revolt that Failed: Farm Workers' Trade Unions in Wales, 1889-1950' (Cardiff, 1989).

Owner:
Anglesey County Record Office
Crëwr:
Anglesey County Record Office
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Ynys Môn
Copyright Details:
Archifdy Ynys M�n 2001
Publisher Ref:
GTJ17041
Eitem wedi’i llwytho:
21/1/2010
Date originally created:
1890-1899
Gwelediadau:
2200
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment