Tocyn pres, 1550-1630 [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Defnyddiwyd tocynnau pres i amcangyfrif cyfrifon ynghyd â thabl cyfrif. Maent yn edrych yn debyg i ddarnau arian, ond nid ydynt yn dangos gwerth, gan fod hynny'n dibynnu ar eu safle ar y tabl cyfrif. Dyma sut byddai pobl yn cyfrif cyn i ddulliau mathemategol modern yn defnyddio rhifau Arabaidd ddod yn gyffredin.
Gwnaed y tocynnau pres cyntaf ym Mhrydain yn ystod teyrnasiad Edward I, ond erbyn canol yr 16eg ganrif roedd Prydain yn eu mewnforio yn hytrach na'u cynhyrchu, a deuai'r rhan fwyaf ohonynt o Nuremberg yn yr Almaen. Dyma'r tocyn fwyaf cyffredin i'w ddarganfod ym Mhrydain, yn dangos y 'reichapfel', neu belen, ar un ochr, a thair coron a fflŵr-dy-lis yn amgylchynu rhosyn ar y llall. Fe'u defnyddiwyd yn eang fel tocynnau hapchwarae hefyd, cyn dechrau defnyddio 'chips' yn arbennig ar gyfer y pwrpas hwnnw.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment