Skip to main content

Injan stm bendiliol pedair modfedd, 1865

Disgrifiadau

Cyflwynwyd i Sefydliad Brenhinol De Cymru gan gwmni Vivian & Sons Cyf., Gwaith Copr Hafod, Abertawe, 1920.

Adeiladwyd Gwaith Copr yr Hafod gan John Henry Vivian (1785-1855), un o'r bobl mwyaf blaenllaw yn niwydiant copr De Cymru yn ystod y 19eg ganrif. O ganol y ddeunawfed ganrif hyd diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y diwydiant mwyndoddi copr Cymreig heb ei ail ar draws y byd. Wedi ei seilio yn wreiddiol ar fwyndoddi mwyn gyda glo metelegol a gafwyd yn ardaloedd Abertawe, Llanelli a Chastell-nedd, o ail chwarter y bedwaredd ganrif ar bymtheg mewnforiwyd mwynau copr o bob rhan o'r byd. Roedd llawer o'r busnesau mwyndoddi hŷn wedi eu sefydlu gyda chyfalaf Cernyw, gan gynnwys y busnes mwayf un, Vivian & Sons. Cynnyrch pennaf gwaith 'Coppderopolis', fel y galwai Abertawe ei hun, oedd barrau, er bod melinau rolio wedi eu gosod yn y gweithfeydd mwyaf yn y bedwareded ganrif ar bymtheg i wneud dalennau a phlatiau. Roedd copr mwyndoddedig Cymreig yn cael ei allforio drwy'r byd i gyd bron. Dirywiodd y diwydiant yn gyflym yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg o ganlyniad i sefydlu gweithfeydd mwyndoddi yn agosach at y gweithfeydd mwyn a arferai ddarparu mwynau i Abertawe.

Owner:
Swansea Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Abertawe
Copyright Details:
Amgueddfa Abertawe 2002
Publisher Ref:
GTJ70757
Eitem wedi’i llwytho:
20/1/2010
Date originally created:
1865
Gwelediadau:
1607
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment